Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

04 Chwefror 2019

SL(5)306 – Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019

Gweithdrefn: Cadarnhaol

O ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017, mae'r swyddogaeth o roi cydsyniad mewn perthynas â'r canlynol wedi'i ddatganoli i Weinidogion Cymru ("prosiectau newydd datganoledig"):
           (a) Cydsynio i orsafoedd cynhyrchu ar y tir ac ar y môr gyda chapasiti o 350MW neu lai; 
                 a
           (b) Chydsynio i linellau uwchben gyda foltedd nominal o 132KV neu lai, lle maen nhw’n gysylltiedig â gorsaf gynhyrchu ddatganoledig.

Gorsafoedd cynhyrchu ar y tir

Ar hyn o bryd, y sefyllfa ddiofyn yw y bydd cydsynio o ran prosiectau newydd datganoledig yn gofyn am ganiatâd cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.  Mae hyn yn creu sefyllfa anffafriol lle mae Gweinidogion Cymru yn cydsynio i brosiectau graddfa lai sydd wedi'u datganoli eisoes, tra bod Awdurdodau Cynllunio Lleol ar lefel leol yn cydsynio i orsafoedd cynhyrchu ar raddfa fwy. Mae'r Rheoliadau hyn yn newid yr anghysondeb hwn drwy sicrhau bod gweithdrefn gydsynio gymesur ar waith. 

Llinellau trydan uwchben

Y sefyllfa ddiofyn ers i Ddeddf Cymru 2017 ddod i rym yw mai cyfrifoldeb yr Awdurdod Cynllunio Lleol ar lefel leol yw cydsynio i linellau trydan uwchben hyd at ac yn cynnwys 132KV sy'n gysylltiedig â gorsaf gynhyrchu

ddatganoledig. Mae'r Rheoliadau hyn yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb i Weinidogion Cymru er mwyn i’r penderfyniad gael ei wneud ar lefel genedlaethol.

Storio trydan

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu prosiectau storio trydan ar raddfa fach o’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, er mwyn i'r Awdurdodau Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau ar y lefel leol. Caiff cynlluniau o ran storio hydrodrydanol eu cadw fel rhan o’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Newidiadau i ffioedd ar gyfer ceisiadau tybiedig

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 i ganiatáu i ffi fod yn daladwy i'r Awdurdod Cynllunio Lleol mewn perthynas â chais tybiedig mewn rhai amgylchiadau lle byddai’r cais, fel arall, wedi'i wneud i Weinidogion Cymru. 

Rhiant-Ddeddf: Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: